SL(5)349 – Cod Ymarfer: Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol

Cefndir a Phwrpas

Mae'r canllawiau yn y cod hwn yn amlinellu sut y gall rheolwyr a darparwyr gwasanaethau awdurdodau lleol gydymffurfio â Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019 (‘y Rheoliadau’). Mae’r gofynion hyn wedi’u cynnwys yn Rhannau 2 i 13 o'r Rheoliadau.

Fodd bynnag, rheolwyr a darparwyr gwasanaethau awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am benderfynu sut bodlonir y gofynion yn y Rheoliadau, gan ystyried anghenion yr unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio'r cod ymarfer hwn wrth wneud penderfyniadau ynghylch i ba raddau mae rheolwyr a darparwyr gwasanaethau awdurdodau lleol yn bodloni'r gofynion yn y Rheoliadau, ac fel sylfaen ar gyfer arolygu gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol.

Gweithdrefn

Rhaid gosod drafft o’r cod gerbron y Cynulliad. Os, o fewn 40 diwrnod (heb gynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) o osod y drafft, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod.

Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

Craffu o dan Rheol Sefydlog 21.7

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

21 Chwefror 2019